Pedwarawd Armida

Nos Fercher 22 Mai 2019, 7.30yh
Priordy Ewenny
Martin Funda - feiolín
Johanna Staemmler – feiolín
Teresa Schwamm – fiola
Peter-Philipp Staemmler - soddgrwth
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Dobrinka Tabakova | On a bench in the shade | 7' | |
Sofia Gubaidulina | Pedwarawd Llinynnol Rhif 1 | 23' | |
Robert Fokkens | flutterings, splinterings, becomings (Comisiwn i’r Ŵyl - y perfformiad cyntaf yn y byd) |
15' | |
Franghiz Ali-Zadeh | Muga-Sayagi (1993) Pedwarawd Llinynnol gydag offerynnau taro a thâp wedi’i recordio ymlaen llaw |
25' |
Mae’r rhaglen hon yn dathlu persbectifau rhyngwladolaidd hynod ddiddorol pedwar cyfansoddwr sy’n cyfuno dylanwadau’r gwledydd lle cawsant eu geni â diwylliant y gwledydd lle maent yn byw erbyn hyn.
Mae’r gyfansoddwraig Tatar-Rwsiaidd Sofia Gubaidulina yn byw yn Hambwrg ers amser maith. Mae ei cherddoriaeth yn tynnu ar ei hysbrydolrwydd dwfn. “Person Uniongred Rwsiaidd crefyddol ydw i a dw i’n deall y gair Saesneg ‘religion’ yn ei ystyr llythrennol fel ‘re-ligio’, sef adfer cysylltiadau, adfer ‘legato’ bywyd. Nid oes yr un dasg sy’n fwy difrifol i gerddoriaeth na hon.”
Magwyd Franghiz Ali-Zadeh, sydd hefyd yn byw yn yr Almaen erbyn hyn, yn Azerbijan. Enghraifft afaelgar yw ‘Muga-Sayagi’ o’r gerddoriaeth y mae hi’n cael ei nabod orau amdani, sef cydblethu cerddoriaeth werin Azerbijanaidd draddodiadol, barddoniaeth a gwaith byrfyfyr â thechnegau cyfansoddi Gorllewinol yr 20fed ganrif.
Mae Dobrinka Tabakova a aned ym Mwlgaria a’r De Affricanwr Robert Fokkens yn byw yn y DU – Robert yng Nghymru. Mae’r cyngerdd yma’n gweld y perfformiad cyntaf yn y byd o waith newydd i bedwarawd llinynnol a gomisiynwyd gan Ŵyl Bro Morgannwg, gyda chyllid gan Dŷ Cerdd.
Bydd sgwrs cyn y cyngerdd gyda’r cyfansoddwr Robert Fokkens am 6.30yh.
Os ydych yn awyddus i fynychu’r cyngerdd yma ond yn ei chael yn anodd cyrraedd Priordy Ewenni, croeso i chi e-bostio vogfestival@outlook.com – efallai y gallwn ni’ch cysylltu â Chyfeillion yr Ŵyl sy’n gallu helpu gyda chludiant.