Astrid yr Organ Stryd: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
3 Awst & 10 Awst 19, 13:00, Encore, Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Llanrwst, Sir Conwy)
I ddathlu 50 mlwyddiant GBM, rydym wedi comisiynu deg cyfansoddwr (wyth ohonynt o Gymru) i ysgrifennu darnau byrion i’r organ stryd.
Rydyn ni wedi’n cyffroi’n lân o feddwl y bydd y prosiect hwn yn creu llwyfan i ddathlu cyfansoddwyr sefydledig sydd eisoes wedi ennill gwobrau lu ochr yn ochr â doniau iau cyffrous. Mae’r holl gyfansoddwyr wedi’u dethol am y gallu a rennir ganddynt i leisio rhywbeth gwirioneddol unigryw drwy eu cerddoriaeth.
Ymunwch â ni ar gyfer y cyngerdd yma sy’n cynnwys 10 perfformiad am y tro cyntaf yn y byd i Astrid yr Organ Stryd Iseldiraidd gan:
Mark David Boden, Graham Fitkin, Gareth Glyn, John Metcalf, Lynne Plowman, Steph Power, Guto Pryderi Puw, Claire Victoria Roberts, David Roche a Ben Wallace.
Perchennog a Gweithredwr yr Organ Stryd Iseldiraidd: Francis Stapleton
Cydlynydd Prosiect yr Organ: David Roche
Trefnir y sesiwn gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Gŵyl Bro Morgannwg