Bhekizizwe

Dydd Sul 12 Medi, 2:00yh

Chapter

Ffilm

Composer Piece Duration Listen
Robert Fokkens Bhekizizwe

Mae Bhekzizwe, opera newydd Robert Fokkens’, yn dweud stori bywyd dyn Zulu o Dde Affrica sydd yn tyfu i fyny yn ystod blynyddoedd olaf apartheid ac yn symud i’r DU. 

Bwriadwyd Bhekzizwe ar gyfer taith o gwmpas Cymru yn wreiddiol, ond cafodd yr opera ei ail-greu fel ffilm yn ystod y cyfyngiadau symud a’i recordio yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, ble mae’n cael ei ddangos yma fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg. 

Mae’n archwlio i gwestiynau am hunaniaeth, hîl, mewnfudo, magu plant a diwylliant, ar ffurf monodrama – sydd yn golygu ei fod yn cael ei actio a’i ganu gan berfformiwr unigol (bariton Themba Mvula).

Cydweithredodd Robert â thîm creadigol eang i ddatblygu Bhekzizwe – Mkhululi Mabija (libretydd), Njabulo Madlala (bariton), Ben Davis (cyfarwyddwr) a Brad Caleb Lee (dyluniwr).