Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Steve Reich © Jeffrey Herman

Nos Sadwrn 18 Mai 2019, 7.30yh

Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru

Composer Piece Duration Listen
Dobrinka Tabakova Organum Light 5'
Peteris Vasks Vientulais Engelis (Lonely Angel)
Myfyrdod i’r Feiolín a Cherddorfa Linynnol
13'
Steve Reich Cerddoriaeth i Ensemble a Cherddorfa (2018)
Y perfformiad cyntaf yng Nghymru
19'
Ben Wallace Five Gifts for an Old Friend
Y perfformiad cyntaf yn Ewrop
12'
Claire Victoria Roberts Blue Lab 5'
Mark David Boden Gwaith newydd – Comisiwn i’r Ŵyl
Y perfformiad cyntaf yn y byd
5'
David Lang Simple Song (2015)
Fel a glywir yn nhrac sain ffilm Paolo Sorrentino YOUTH.
6'
John Metcalf Aria Polly Garter o Under Milk Wood
Fersiwn newydd i soprano a cherddorfa (y perfformiad cyntaf yn y byd)
6'
Graham Fitkin Metal 4'

Yn wledd o ddanteithion, mae’r cyngerdd hwn yn cyfuno cerddoriaeth gan gewri cerddoriaeth gyfoes gan gynnwys Steve Reich a Peteris Vasks, gyda’r doniau newydd anhygoel sy’n dod i’r fei yng Nghymru y dyddiau hyn.

Gŵyl Bro Morgannwg yn cyflwyno un o’r perfformiadau cyntaf yn y byd o Gerddoriaeth i Ensemble a Cherddorfa gan Steve Reich a’r perfformiad cyntaf yn y byd o drefniant newydd o Aria Polly Garter gan John Metcalf (o’i opera a dderbyniodd glod mawr gan y beirniaid, Under Milk Wood).

Mae’r perfformiad yn addo eiliadau o fyfyrio’n dawel, gyda Lonely Angel gan Peteris Vasks yn adlewyrchu gweledigaeth angel wrth syllu i lawr dros y byd, yn bryderus ac yn obeithiol ar yr un pryd, ynghyd â digon o hwyl gyda gwaith dathliadol Graham Fitkin, Metal – i gerddorfa a sgaffaldiau heb eu tiwnio – yn dod â’r noson i ben gyda chlec.

 

This project is supported by:

    

              Vale of Glamorgan Festival is supported by PRS Foundation’s The Open Fund