Westward Ho!

Theatre of Voices 'A Western' (c) Reinhard Wilting

Nos Wener 15 Mai 2020, 8yh

Pafiliwn Pier Penarth

Composer Piece Duration Listen
Michael Gordon A Western 25'
Heiner Goebbels Worstward Ho
Based on the novella by Samuel Beckett
35'

Theatre of Voices
Paul Hillier cyfarwyddwr

Mae Gŵyl 2020 yn dechrau gyda’ch cyfle i weld un o brif ensembles cerddoriaeth leisiol y byd, Theatre of Voices, yn holl ogoniant art deco Pafiliwn Pier Penarth.

Mae’r fenter gydweithredol sy’n hanu o Gopenhagen yn arbenigo mewn perfformio cerddoriaeth gyfoes gan fynd â ni ar daith i’r Gorllewin yn y cyngerdd yma sy’n cynnwys dau ddarn dramatig i leisiau digyfeiliant. 

Wedi’i berfformio gan Theatre of Voices yn Elbphilharmonie yn Hambwrg, A Western yw’r darn diweddaraf gan Michael Gordon, aelod sefydlu o’r grŵp cerddoriaeth newydd chwedlonol Bang on A Can. Mae’r gwaith chwareus yma’n cael ei ysbrydoli gan y ffilm gorllewin gwyllt glasurol High Noon ac yn dramateiddio ymladdfa benben ar strydoedd llychlyd Somewheresville yn yr Unol Daleithiau.

Mae Worstward Ho! Heiner Goebbels yn gosod nofel fer Samuel Beckett o’r un enw i gerddoriaeth. Ac yntau’n chwarae ar deitl y nofel antur o’r 19eg ganrif, Westward Ho!, mae testun Beckett yn cynnwys ei linell enwog, “Ever tried. Ever failed. No matter. Try again. Fail again. Fail better.” Mae Goebbels yn adnabyddus fel cyfarwyddwr lawn cymaint â fel cyfansoddwr a darn o theatr yw’i osodiad mesmeraidd o eiriau Beckett lawn cymaint â darn o gerddoriaeth.