Cyngerdd Rhagflas yr Ŵyl – Huw Watkins

Dydd Mawrth 12 Tachwedd, 1yp
Neuadd Dewi Sant
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Huw Watkins | Dream clarinét/feiolín/piano |
8' | |
Michael Zev Gordon | Fragments from a diary clarinét/feiolín/piano |
12' | |
John Luther Adams | Nunataks – Solitary Peaks piano unawd |
6' | |
Helen Grime | Telyn y Gogledd piano unawd |
6' | |
Huw Watkins | Speak Seven Seas clarinét/feiolín/piano |
12' |
Cyfle arbennig yw ein cyngerdd rhagflas ar gyfer yr Ŵyl y flwyddyn nesaf i glywed un o brif gyfansoddwyr cyfoes gwledydd Prydain, Huw Watkins, yn perfformio’i waith ei hun
Ac yntau newydd ddychwelyd o’r perfformiad cyntaf yn y byd o’i ddarn newydd The Moon ym Mhroms y BBC, mae’n ymuno â ni am y cyngerdd amser cinio agosatoch yma yn Neuadd Dewi Sant.
Byddwch yn clywed dau o weithiau, Dream a Speak Seven Seas, a gyfansoddodd Watkins i’r clarinét, feiolín a phiano. Bydd hefyd yn perfformio cerddoriaeth gan Michael Zev Gordon, Helen Grime a darn John Luther Adams i’r piano unawd, Nunataks – Solitary Peaks.
Yn ymuno â Watkins mae dau o berfformwyr eraill o’r radd flaenaf.
Mae David Adams, cyn-arweinydd Cerddorfa Ulster sydd bellach yn Arweinydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yr un mor gartrefol ar y feiolín a’r fiola.
Matthew Hunt yw un o brif glarinetwyr Prydain ac yn gerddor neilltuol sy’n adnabyddus am ansawdd lleisiol ei ddull chwarae, Mae’n dal swydd y clarinetydd unawd gyda Deutsche Kammerphilharmonie Bremen ac yn aelod o’r grŵp siambr o Sheffield, Ensemble 360.
Mae’r rhaglen heddiw yn cynnwys gweithiau gan Huw Watkins, Michael Zev Gordon, Helen Grime a John Luther Adams.
Sgwrs cyn y Cyngerdd gan John Metcalf am y rhaglen.
12yp | Ystafell Llanelwy
Archebwch drwy Neuadd Dewi Sant