Veils and Vesper

John Luther Adams (c) Evan Hurd

Dydd Sadwrn 16 Mai 2020, 11.30yb

Canolfan Gelfyddydau Chapter

Composer Piece Duration Listen
John Luther Adams Veils and Vesper 6 awr 15’

Rydym yn cymryd drosodd Stiwdio Canolfan Gelfyddydau Chapter, nid ar gyfer cyngerdd ond ar gyfer gosodwaith sain sy’n para mwy na chwe awr. Un o weithiau mwyaf uchelgeisiol ein cyfansoddwr arbennig John Luther Adams yw Veils and Vesper, rhywbeth y gallwch biciad i mewn ac allan ohono a’i glywed o wahanol bersbectifau wrth iddo esblygu dros amser.

Yn ôl Adams, Veils and Vesper yw ei ddarn “mwyaf mathemategol” a “mwyaf synhwyrus” ar yr un pryd. Mae’n ymgorffori ‘sain binc’, a geir yn aml mewn natur, a ‘phrismau harmonig’ sydd wedi’u tiwnio i harmonigau rhifau cysefin.

Profiad myfyriol yw gwrando arno ac os ydych yn bwriadu aros am sbel, peidiwch â phoeni – yn ôl Adams, croeso i chi ddod â llyfr. 

 

John Luther Adams: The Music of a True Place from NewMusicBox on Vimeo.