Lleisiau Sanctaidd

Nos Sadwrn 16 Mai 2020, 7.30yh
Lleisiau Sanctaidd
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Julia Wolfe | Guard my tongue | 8' | |
David Lang | Solitary | 10' | |
Galina Grigorjeva | Rejoice O Virgin Theotokos | 4' | |
David Lang | Again | 7' | |
Arvo Pärt | Seren y Bore | 3' | |
Arvo Pärt | Virgencita | 8' | |
Arvo Pärt | Da pacem | 4' | |
Arvo Pärt | Awdl IX o Kanon Pokajanen |
9' | |
Arvo Pärt | Gweddi o Kanon Pokajanen |
9' |
Theatre of Voices
Paul Hillier cyfarwyddwr
Dihangwch i werddon dangnefeddus wrth i’n hail gyngerdd gyda Theatre of Voices gyflwyno cerddoriaeth gorawl fyfyriol yn lleoliad hanesyddol Cadeirlan Llandaf.
Mae’r holl gerddoriaeth yn y cyngerdd hwn yn gosod testunau sanctaidd o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Beiblau Uniongred y Dwyrain a Hebraeg.
Mae’r hanner cyntaf yn cymysgu gweithiau ysbrydol i leisiau digyfeiliant gan dri chyfansoddwr, Julia Wolfe, Galina Grigorjeva a David Lang.
Ar ôl yr egwyl, bydd y noson yn cael ei neilltuo i gerddoriaeth un o gyfansoddwyr ein hoes y mae ei gerddoriaeth yn cael ei pherfformio amlaf ar draws y byd, Arvo Pärt. Gan dynnu ysbrydoliaeth o ffynonellau mor amrywiol â minimaliaeth y 1960au a Siantiau Georgaidd, mae Pärt yn adnabyddus am ymdrin â themâu sanctaidd ac ysbrydol yn hytrach nag ymhél â’r tueddiadau diweddaraf. Rydym yn perfformio pump o’i osodiadau o destunau o’r Beibl Uniongred, sy’n dangos cerddoriaeth gyfoes ar ei mwyaf dolefus a chysurlon.
Yn gyngerdd unigryw yn yr Ŵyl eleni, dyma gyfle i brofi ochr ysbrydol cerddoriaeth glasurol fodern.