Llinellau a Wneir wrth Gerdded

Nos Iau 21 Mai 2020, 7.30yh
Priordy Ewenni
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
John Luther Adams | Lines Made by Walking n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Ewrop |
30' | |
Huw Watkins | Pedwarawd Llinynnol (2013) | 15' | |
Tarik O'Regan | Gradual | 20' |
Pedwarawd Carducci
Rydym yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn Ewrop o un o weithiau diweddaraf John Luther Adams, Lines Made by Walking. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf erioed yng nghyfres unigryw Death of Classical yn Efrog Newydd ym mis Awst 2019, ychydig o bobl yn unig sydd wedi’i glywed ac felly ni allwn ni ddweud rhyw lawer amdano eto a dweud y gwir! Ymunwch â ni i fod y cyntaf yn Ewrop i gael y fraint o’i brofi.
Mae’r ail gyngerdd yma gyda Phedwarawd Carducci yn mynd â ni i eglwys lawn naws o’r 12fed ganrif yng Ngorllewin Bro Morgannwg, Priordy Ewenni.
Bydd y grŵp hefyd yn chwarae Pedwarawd Llinynnol Huw Watkins o 2013, darn a chwaraewyd am y tro cyntaf yn y byd ganddynt ac felly maent yn ei nabod yn dda. Byddwn hefyd yn clywed Gradual gan Tarik O’Regan. Yn yr un modd â cherddoriaeth John Luther Adams, mae’r darn wedi’i ysbrydoli gan natur, yn yr achos hwn, taith 500 milltir y cyfansoddwr o gwmpas gwylltiroedd Idaho, un o’r taleithiau mwyaf prin eu poblogaeth yn yr Unol Daleithiau.