Pedwarawd Carducci gyda Huw Watkins

Nos Fercher 20 Mai 2020, 8yh
Pafiliwn Pier Penarth
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Philip Glass | Pedwarawd Llinynnol Rhif 3 - Mishima | 20' | |
John Luther Adams | The Wind in High Places | 16' | |
David Roche | Gwaith newydd i’r piano unawd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y byd |
10' | |
Huw Watkins | Pumawd Piano | 20' |
Pedwarawd Carducci
Huw Watkins piano
Mae cyfraniad Huw Watkins i’r Ŵyl eleni fel un o’n cyfansoddwyr arbennig yn cyrraedd ei anterth yn y cyngerdd hwn, lle gallwch ei glywed yn chwarae ei gerddoriaeth ei hun i’r piano.
Yn ymuno â Huw bydd yr arbenigwyr ar gerddoriaeth gyfoes, Pedwarawd Carducci, ar gyfer perfformiad o’i Bumawd Piano (2018).
Prin y gallai’r darn bywiog yma gynnig mwy o wrthgyferbyniad i The Wind in High Places, gan y cyfansoddwr arall sy’n cael sylw arbennig eleni, John Luther Adams. Wedi’i ysbrydoli gan fynyddoedd Alaska, dyma bedwarawd llinynnol llesmeiriol a moel y mae un o gydweithredwyr rheolaidd yr Ŵyl, y cyfansoddwr Pwyll ap Siôn, wedi’i ddisgrifio fel darn sy’n ‘cipio’r anadl’.
Ac os gwelsoch chi ein perfformiadau awyr agored yn 2019 gydag Astrid yr Organ Stryd, byddwch wedi dod ar draws David Roche a gydlynodd y prosiect a chyflwyno’r cyfansoddiadau. Y tro yma, rydym wedi comisiynu David i ysgrifennu darn newydd i’r piano unawd y bydd Huw Watkins yn ei chwarae wrth iddo gael ei berfformio am y tro cyntaf yn y byd yn y cyngerdd hwn.