Fruits of Silence

7.30yh, Dydd Mawrth 14 Medi
Darllediad arlein o Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd
Solem Quartet
Siwan Rhys - piano
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Pēteris Vasks | String Quartet no. 1 | 15' | |
John Metcalf | Towards Silence rhagolwg o’r pedwarawd newydd |
18' | |
Guto Puw | String Quartet no. 1: Your Paths Overflow with Plenty | 23' | |
Sarah Jenkins | The Lake Isle of Innisfree gyda phiano |
6' | |
Pēteris Vasks | The Fruit of Silence gyda phiano |
8' |
Bydd y cyngerdd hwn yn cael ei ffrydio yn fyw ar sianel YouTube Gŵyl Bro Morgannwg.
Mae amrywiaeth ac ehangder y gerddoriaeth yng Ngŵyl eleni yn cael ei ymgorffori yn y cyngerdd hwn, sydd yn arddangos gwaith gan bedwar o’n Cyfansoddwyr Dethol.
Yn ymuno â Solem Quartet yw’r pianydd deinamig o Gymru Siwan Rhys, a oedd yn bywiogi ein Gŵyl Gartref 2020 gyda’i pherfformiad fel rhan o ddeuawd GBSR.
Mae dau ddarn gwrthgyferbyniol gan Pēteris Vasks yn dechrau ac yn gorffen y cyngerdd. Mae ei String Quartet No 1 yn mynd yn ôl i 1977 ac yn adlewyrchu’r dicter tuag at ormes Sofietaidd o Latfia, ei famwlad. Ar y llaw arall, mae’r fersiwn pumawd piano o The Fruit of Silence, yn ddarn addfwyn wedi’i ysbrydoli gan eiriau’r Fam Teresa, “The fruit of silence is prayer”.
Rhwng y rhain, cewch fwynhau gweithiau newydd neu ddiweddar gan dri chyfansoddwr amlwg o Gymru.
Mae Sarah Jenkins yn cael ei hysbrydoli gan gerdd WB Yeats, The Lake Isle of Innisfree, portread rhamantaidd o encilio i gaban yn y gwyllt.
Mae Solem Quartet yn barod yn gyfarwydd â Phedwarawd Llinynnol cyntaf Guto Puw – perfformiwyd y gwaith hwn ganddynt yn gyntaf yn ystod Gŵyl Gerddoriaeth Bangor arlein ym mis Mawrth eleni.
Hefyd, cewch glywed rhagolwg arbennig o Bedwarawd Llinynnol newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig John Metcalf, siwrnai gerddorol o’r Gaeaf diwethaf.
Ni fyddwn yn codi unrhyw dâl ar gyfer perfformiadau 2021 ond rydym yn annog pawb i gefnogi artistiaid gŵyl eleni a’r dyfodol drwy wneud rhodd. Diolch o flaen llaw ar gyfer y cymorth hollbwysig hwn. ewch at ein tudalen Virgin Money Giving.
Sgwrs cyn cyngerdd – 7.10yh – Sarah Jenkins, John Metcalf, Guto Puw a Steph Power
Cefnogwyr
Fidelio Charitable Trust