Graham Fitkin: Y Cyfansoddwr yn Chwarae

Nos Wener 24 Mai 2019, 8.00yh
Acapela, Pentyrch
Bydd sgwrs cyn y cyngerdd gan y newyddiadurwraig John Metcalf am 7.15yh.
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Graham Fitkin | New work for prepared piano Y perfformiad cyntaf yn y byd |
6' | |
Graham Fitkin | Scent | 7' | |
Graham Fitkin | Running and Breathing | 5' | |
Graham Fitkin | Running and Breathing | 5' | |
Graham FItkin | Piano Pieces 89, 91, 94 & 00 | 10' | |
Graham Fitkin | Blue | 7' | |
Graham Fitkin | The Cone Gatherers | 11' | |
Graham Fitkin | Resistances | 6' |
Yn aml, byddai’r cyflwyniad gwreiddiol o gerddoriaeth Graham Fitkin yn yr Ŵyl ar ddechrau’r 1990au’n cael ei nodweddu gan ddarnau i soniarusrwydd unffurf y piano, darnau unawd ac i sawl piano – yn enwedig chwe phiano. Bu’r dewis artistig bwriadol yma’n gryn ddylanwad ar ei allbwn cynnar. Dros amser, bu mwyfwy o bobl yn ymddiddori yn ei waith ac yn ei dro bu hyn yn sbardun iddo symud at ystod gynyddol eang o gyfuniadau offerynnol.
Fodd bynnag, drwy gydol ei yrfa artistig hyd yma, mae’r piano wedi parhau’n ffynhonnell ysbrydoliaeth bwysig sydd weithiau’n ysgogi ystod o waith mwy meddylgar a thywyll na’r darnau bywiog llachar y cysylltir ef â nhw’n draddodiadol. Mae cael y cyfansoddwr i’w perfformio’n rhoi cipolwg arbennig arnynt i ni a hefyd nid oes ffordd fwy addas o ddathlu diweddglo 50 mlwyddiant yr Ŵyl na chyda’r ystod hynod ddiddorol o waith sydd ar gynnig heno gan gyfansoddwr y mae ei gysylltiad maith â’r Ŵyl yn werthfawr iawn i ni.
Noder: Er bod mynediad i bobl anabl i Acapela, oherwydd natur agosatoch y ganolfan, nid oes toiled i’r anabl. Cysylltwch â Stiwdio Acapela ar 029 2089 0862 am wybodaeth bellach. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra yma.