Polisi Preifatrwydd
Mae Gŵyl Bro Morgannwg yn Parchu eich Preifatrwydd
Swyddfa’r Ŵyl:
Beech House, Cotswold Avenue, Lisvane, Cardiff CF14 0TA
Rhif y Cwmni: 1862934 Rhif Elusen: 519044
Rydym yn cydymffurfio â Deddf Gwarchodaeth Data 1998 a chyfathrebir drwy ddulliau electroneg gan ddilyn Rheoleiddiadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electroneg (PECR)
Casglwn ddata personol y byddwch chi yn dewis ei wirfoddoli fel rhan o archebu tocynnau, o brynu rhywbeth, o lenwi ffurflenni aelodaeth neu rodd, o arwyddo e-lythyron ac arolygon ymwelwyr. Gall gwybodaeth bersonol a gasglwn gynnwys eich enw llawn a’ch teitl, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
Byddwn , hefyd, yn casglu a chadw gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw gyswllt sydd gennych â ni fel ymwelydd, cyfrannwr neu gefnogwr i Ŵyl Bro Morgannwg ac fe all gynnwys manylion o:
- bryniant tocynnau a phresenoldeb mewn digwyddiad
- dewisiadau cysylltu
- gwybodaeth ynglŷn â rhoddion, gan gynnwys manylion talu ble’n berthnasol
- statws Rhodd Gymorth
- manylion ynglŷn â gohebiaeth a ddanfonwyd atoch chi, neu a dderbyniwyd gennych chi
- statws rhoddwr
- unrhyw wybodaeth arall a roddir gennych chi mewn ymateb i gais gan Ŵyl Bro Morgannwg
Pan ofynnwn i chi roi gwybodaeth bersonol i ni, fe rown wybod i chi pam yr ydym yn gofyn i chi a sut y byddwn yn defnyddio’ch data, drwy eich cyfeirio at yr hysbysiad hwn. Gan ddibynnu ar eich perthynas â Gŵyl Bro Morgannwg a’r dewisiadau rydych chi wedi eu dynodi, fe allai unrhyw ddata a gedwir gennym gael ei ddefnyddio i ddanfon atoch wybodaeth hyrwyddo, marchnata neu godi arian drwy’r post neu drwy ddulliau electronig.
Gall y mathau o gyfathrebu gynnwys:
- Rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â chynhyrchion eraill, gwasanaethau neu ddigwyddiadau sy’n perthyn i Ŵyl Bro Morgannwg megis arddangosfeydd, digwyddiadau neu gynigion manwerthu
- Newyddion a diweddariadau ynglŷn â Gŵyl Bro Morgannwg ac e-lythyron marchnata a chefnogwyr
- Gwybodaeth ynglŷn â’n gweithgareddau codi arian, gan gynnwys , yn achlysurol, ceisiadau wedi’u targedu i ystyried rhoi cefnogaeth ariannol i Ŵyl Bro Morgannwg, neu i ofyn i chi ystyried ein cefnogi mewn ffyrdd eraill
Cysylltiadau perthnasol eraill wedi’u seilio ar eich perthynas chi â Gŵyl Bro Morgannwg
- Cysylltir drwy ffôn ond i gyfathrebu’n uniongyrchol ynglŷn â:
- Newidiadau mewn amgylchiadau sy’n berthnasol i ddigwyddiadau penodol a phryniadau
- Materion sy’n berthnasol i brosesu archebion, rhoddion neu daliadau
Deallwn bod eich gwybodaeth bersonol yn bwysig i chi. Gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a rannwch gyda ni wedi’i chofnodi’n gywir, wedi’i chadw’n ddiogel ac yn cael ei defnyddio yn unol â’ch dymuniadau chi.
Fe amddiffynnwn eich gwybodaeth bersonol a glynwn at ddeddfwriaeth gyfredol deddf amddiffyn data o ran amddiffyn preifatrwydd. Nid ydym yn rhannu, gwerthu neu gyfnewid ein data rhestr postio gyda phartion eraill.
ddefnyddiwn eich gwybodaeth yn bennaf i amddiffyn eich pryniadau a’ch presenoldeb mewn digwyddiadau a hefyd i’ch hysbysu ynglŷn â digwyddiadau Gŵyl Bro Morgannwg. Os hoffech, ar unrhyw adeg, beidio â derbyn negeseuon gennym ni , yna cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad uchod neu drwy e-bost: office.vogfestival@gmail.com