Sbotolau ar y Cyfansoddwr – GWERTHU ALLAN

7yh - 8:15yh, nos Lun 20 Mai 2019
Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|---|---|---|
Brian Noyes | Triawd Piano Op 38 (Yn ysbryd Ave Maris Stella) | ||
Andrew Wilson-Dickson | Triawd Piano rhif 2 (Rapunzel's Dream) |
Beth sy’n ysbrydoli ac yn herio cyfansoddwyr pan fyddant yn creu cerddoriaeth newydd?
Byddwn yn darganfod yr ateb yn y digwyddiad agosatoch ac unigryw yma, wrth i’r cyfansoddwyr Brian Noyes ac Andrew Wilson-Dickson ymuno â ni ar gyfer perfformiadau am y tro cyntaf yng Nghymru o’u triawdau piano neilltuol.
Wedi’i berfformio am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2015 a chyda pherfformiad yn Neuadd Carnegie i’w enw, Triawd Piano Op. 38 yw’r diweddaraf o weithiau Noyes. Wedi’i ysbrydoli gan amser a dreuliwyd gyda Syr Peter Maxwell Davies yn 2015, dyma waith newidiol a chyffrous sy’n esblygu o agoriad tyner i gyrraedd anterth dramatig.
Daw Triawd Piano Rhif 2 Wilson-Dickon o gyfnod cynharach o lawer yn ei yrfa (1979) ond nid yw erioed wedi ei berfformio yng Nghymru o’r blaen. Wedi’i gyfansoddi ar adeg pan oedd y cyfansoddwr yn cael ei ysbrydoli gan dechnegau canu clychau hynafol ym Mhrydain, darn sy’n llawn egni yw hwn ac eginyn o’i opera siambr ‘errors’ o 1980.
Deborah Keyser, Ty Cerdd, yn cyfweld â’r ddau gyfansoddwr cyn y perfformiadau a chewch gyfle i ofyn eich cwestiynau unwaith i chi glywed y darnau.
Ein perfformwyr yw’r pianydd Robin Green, y feiolinydd Sara Trickey a’r soddgrythores Rosie Biss.
Wedi’i gyflwyno ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru a’i gefnogi gan grant oddi wrth Dŷ Cerdd.