Sinfonia Cymru: Enchant

4yh, Dydd Sul 12 Medi

Chapter

Sinfonia Cymru

Composer Piece Duration Listen
Anna Meredith Charged
ffidil
4'
Errollyn Wallen Dervish
soddgrwth a phiano
7'
Steve Reich Cello Counterpoint
soddgrwth a thâp
11.5'
Errollyn Wallen Louis' Loops
piano tegan
4'
Anna Clyne Rapture
clarinet a thâp
7'
Anna Clyne Just as they are
piano, ffidil, soddgrwth, clarinet, ffliwt
5'
Laurence Crane Raimondas Rumsas
soddgrwth
5.5'
Anna Clyne 1987
ffliwt bas, clarinet bas, ffidil, soddgrwth, tâp
7.5'
Aaron Parker Sirrantung
ensemble llawn, synau wedi eu prosesu, traethiad a delweddau gweledol
8.5'

Rydym wedi ffurfio tîm gydag un o gerddorfeydd dan 30 oed mwyaf blaenllaw y DU ar gyfer taith o gerddoriaeth syfrdanol gan gyfansoddwyr byw o’r 2000au cynnar i’r diwrnod presennol.

Mae’r cyngerdd wedi’i guradu gan Stephanie Tress o Solem Quartet ar gyfer Sinfonia Cymru a Gŵyl Bro Morgannwg

Mae dewis eclectig o ddarnau byr yn adlewyrchu rhai o’r emosiynau dwys a gwrthdrawiadol sydd wedi bod yn bresennol yn y byd ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2019.

Mae Stephanie wedi canolbwyntio ar gyfansoddwyr cyfoes gyda dylanwadau amrywiol, gan gynnwys tri darn gan Anna Clyne, sydd wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr Grammy, ac sydd yn cyfansoddi cerddoriaeth sydd yn cyfuno offerynnau cerddorol a synau electronig. 

Mae’r cyngerdd yn dod i ben gyda Sirrantung Aaron Parker, darn galarus sydd yn dod yn fyw trwy draethiad a ffilm yn cael ei thaflunio y tu ôl i’r perfformwyr. 

Y dewis hwn o ddarnau byr yw’r ffordd berffaith o sicrhau cychwyn cyffrous i Ŵyl eleni.