Stiwdio Gyfansoddwyr Peter Reynolds 2020
Bob blwyddyn, mae’r Ŵyl yn cynnal Stiwdio Gyfansoddwyr Peter Reynolds ar gyfer chwe egin gyfansoddwr. Wedi’i henwi er cof am Peter Reynolds, cyfaill a chefnogwr annwyl i’r Ŵyl, mae’n cynnig wythnos o ddysgu dwys o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyrsiau Dr Robert Fokkens o Brifysgol Caerdydd a’r cyfle i gael gwaith wedi’i berfformio gan gerddorion blaenllaw.
Eleni, bu’n rhaid gwneud pethau ychydig yn wahanol, felly rhoddodd Siwan Rhys (piano) a George Barton (offerynnau taro) sesiynau tiwtora dros Zoom cyn recordio darn gan bob un o’r cyfansoddwyr gartref.
Yma rydyn ni’n cyflwyno pob un o’r recordiadau hynny – gwrandewch i brofi cerddoriaeth gan rai o gyfansoddwyr y dyfodol.
Daniel-Wyn Jones – ghosts.
Florence Anna Maunders – Nest/ Mound