Taith Ddirgel Cerddoriaeth Newydd
5.45yp tan 10.30yh, nos Sul 19 Mai
i’w datgelu
Composer | Piece | Duration | Listen |
---|
Mentrwch ar y Daith Ddirgel gyntaf erioed i’r Ŵyl ei threfnu ar gyfer perfformiad mewn canolfan ddirgel agosatoch a llawn naws.
Yn fwriadol, dydyn ni ddim yn mynd i ddatgelu gormod. Ond byddwn yn cyfarfod y tu allan i Amgueddfa Caerdydd ar gyfer taith 30 munud mewn bws i’n cyrchfan yng nghwmni cyfansoddwr neu gyfansoddwyr o fri a fydd yn cynnig arweiniad i ni ynglŷn â’u cerddoriaeth. Yna, byddwch yn cael cyfle i glywed tua 100 munud ohoni.
Mae nifer y lleoedd ar gyfer y digwyddiad untro arbennig yma i ddathlu pen-blwydd Gŵyl Bro Morgannwg yn 50 oed yn dra chyfyngedig. Yn ddi-os, dyma un o’r ffyrdd mwyaf cyffrous o glywed cerddoriaeth newydd yn 2019.
Gallwch brynu picnic ymlaen llaw neu ddod â’ch un eich hun. Hefyd, ceir bar arian parod.
Gwybodaeth ymarferol:
Bydd y bws yn gadael am 6yh o Ffordd Gerddi’r Orsedd, ger y grisiau o flaen Amgueddfa Caerdydd.
Y gynulleidfa i gyrraedd am 5.45 i fynd ar y bws. Mynediad i gadeiriau olwyn o 5.30yp. Dylai defnyddwyr cadeiriau olwyn neu aelodau’r gynulleidfa sydd ag anghenion penodol eraill roi gwybod i ni ymlaen llaw drwy e-bostio vogfestival@outlook.com
Bydd y bws yn dod yn ôl i Amgueddfa Caerdydd erbyn 10.30yh
Taliadau parcio: mae parcio ar gael yn y strydoedd cyfagos; mae hyn am ddim ar ddydd Sul ar ôl 5yp
Gwybodaeth am y picniciau:
Sgon ffrwythau traddodiadol, jam a hufen tolch
Brechdanau amrywiol (ham, caws hufen ac wy mayo), tarten sawrus
Parsel siocled, Tarten lemon fach, Mousse siocled, teisen foron fach
Dewisiadau llysieuol a heb glwten ar gael.