On Sale day
We are very excited to officially launch our new Vale of Glamorgan Festival Website. Thanks to funding from Arts Council Wales we have bee...
Dymunwn rannu’r llawenydd o wrando a darganfod gyda chynulleidfaoedd sydd yn ysu i gael profi'r newydd a’r cyfoes, ac rydym yn gweithio gyda chyfansoddwyr rhyngwladol sydd yn torri a thraddodiad i gomisiynu cerddoriaeth newydd sydd yn adlewyrchu diwylliant cerddoriaeth glasurol heddiw ac yfory.
“Mae’r ŵyl fendigedig hon wedi codi sylw a chefnogi amryw eang o gyfansoddwyr dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf, ac rwyf yn ffodus iawn i fod yn un ohonyn nhw. Mae wedi meithrin cynulleidfa anturiaethus a chyd-deimladwy ar gyfer cerddoriaeth newydd yng Nghymru, ac rwyf, fel cyfansoddwr, yn hynod ddiolchgar.” Huw Watkins
Mae Gŵyl Bro Morgannwg wedi tyfu dros y 50 mlynedd diwethaf i fod yn un o wyliau cyfoes fwyaf unigryw ac arloesol y byd cerddoriaeth glasurol. Mae Cyfarwyddwr Artistig John Metcalf yn gyfansoddwr Cymraeg/Canadaidd ar y brig, sydd yn cynhyrchu gweithiau mewn amryw o ffurfiau cerddorol pwysig, ac wedi ymrwymo i guradu a chomisiynu perfformiadau clasurol cyfoes sydd yn torri a thraddodiad drwy gydol hanes yr ŵyl. Mae blynyddoedd cynt wedi cynnwys dathliadau mawr o weithiau cyfansoddwyr rhyngwladol Arvo Pärt, Louis Andriessen a Steve Reich, sydd wedi bod yn bresennol i’r ŵyl, yn galluogi cynulleidfaoedd i glywed yn uniongyrchol gan y cyfansoddwyr am eu gwaith a’r hyn sydd wedi eu hysbrydoli.
Mae ein rhaglennu a chomisiynu wedi eu harwain o Gymru ond yn cysylltu yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, can ddarparu amrediad o ddatblygiadau cerddorol a chyfleoedd cynulleidfaol anhygoel. Mae ein cyfres cyngherddau blynyddol, gan gynnwys darlithiau a seminarau yn creu profil i gerddorion dawnus ac amrywiol, ac yn darparu cyfleoedd am ddysgu integredig a mewnweledol.
Ein nod yw cefnogi a dathlu cerddorion dawnus ac amrywiol o unrhyw oedran, o unrhyw lefel o brofiad cerddorol ac o unrhyw gefndir mewn ffordd ragweithiol. Gan gynnwys:
We are very excited to officially launch our new Vale of Glamorgan Festival Website. Thanks to funding from Arts Council Wales we have bee...
We are very excited to officially launch our new Vale of Glamorgan Festival Website. Thanks to funding from Arts Council Wales we have bee...