Cymdeithaswch Gyda Ni

The Vale of Glamorgan Festival Ltd is registered in Wales/Cofrestrwyd yng Nghymru:No/Rhif: 1862934Charity No/Rhif Elusen: 519044 VAT no/Rhif TAW: GB 331 0709 00

 

Tocynnau ar Werth

Tocynnau ar Werth

Mae’r diwrnod yma o’r diwedd, mae tocynnau ar werth i Ŵyl Bro Morgannwg 2022.

Mae’r rhaglen yma o ddigwyddiadau wedi bod mewn cyfnod cynllunio ers yn hir cyn i mi ymuno â’r ŵyl fel Cynhyrchydd. Yn dawel bach tu cefn i’r llwyfan mae John Metcalf, ein Cyfarwyddwr Artistig wedi bod yn ffurfio ac ail-ffurfio y cynlluniau drwy gyfnod o ansicrwydd mawr, ac ers i mi ymuno ym mis Hydref, dwi wedi cael gosod y manylion terfynol yn eu lle gyda cyfansoddwyr, artistiaid a lleoliadau.

Mae wedi bod yn gyfnod heriol a llwyddiannus, ac dwi wedi dysgu llawer yn gyflym iawn. Rwyf yn weddol newydd i fyd cerddoriaeth newydd (mae fy nghefndir i ym myd opera), doedd gennai ddim syniad sut i greu fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a dwi heb sgwennu datganiad i’r wasg ers graddio o’r coleg (sawl) blwyddyn yn ôl!

Mae wedi bod yn bleser cael ymestyn fy set o sgiliau, ond beth rwyf wir yn edrych ymlaen i weld yw y synnau a phrofiadau newydd y bydd Ŵyl 2022 yn darparu i mi a chi. Dwi’n edrych ymlaen at gael fy nghwirioni gyda gweithiau newydd and wyf erioed wedi clywed. At gyfarfod â’r hogiau caredig o Sandbox wyneb-yn-wyneb, ar ôl ond eu cwrdd ar sgrîn Zoom tan rwan. At gael bod yn yr ystafell am sawl premiere, fel cyn-gyfranogwr PRCS David Roche a’i premiere byd Waves of Love, ac i glywed Pedwarawd Carducci anhygoel yn rhannu premiere DU o waith  Lines Made by Walking gan John Luther Adams. At bartneriaethau perfformio a chomisiynu newydd, ac at fod yn dyst i genhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr yn ymddangos i’r brig drwy ein Stiwdio Cyfansoddi Peter Reynolds. Does dim llawer o swyddi a all ddarparu hynny oll, ac rwyf wrth fy modd fy mod yn gweithio mewn un yn bresennol. Ac er rwyf yn debygol o angen fis o wyliau ym mis Hydref, dwi’n edrych ymlaen at ymdrochi fy hyn ym mhopeth a mwynhau bod eiliad o’r Ŵyl.

Beth fysai’n gwneud hyn oll yn brofiad gwell fyth, bysai cael rhannu hyn i gyd gyda chi ein cynulleidfa. Pe bod chi’n Gyfaill i’r Ŵyl ers pryd sydd wedi ein cefnogi drwy dyfroedd tawel a gwyllt, neu yn Cyfeillion newydd yn awyddus i brofi pethau o’r newydd ac ymdrochi ym myd cerddoriaeth clasurol cyfoes. Felly ystyriwch yr hyn oll sydd yn ein rhaglen eleni, a byddwch yn sicr i archebu eich tocynnau drwy TicketSource a Swyddfa Docynnau’r CBCDC, ac edrychaf ymlaen at eich cyfarfod o ddifri ym mis Medi.

Kath,

Cynhyrchydd Yr Ŵyl



cy